Wednesday 19 September 2012

Rownd a rownd

Mae’n ofynnol ar y Cyngor Sir i gyhoeddi adroddiad bob blwyddyn i ddangos i ba raddau mae'r awdurdod yn cydymffurfio â'i Gynllun Iaith.

Er bod y Cynllun Iaith yn llawn datganiadau crand, mae'r targedau eu hun yn hynod o ddiymhongar.

Dyma rai o amceinion y Cynllun:
  • meithrin dwyieithrwydd ar draws y Cyngor ac ym mhob cwr o Sir Gaerfyrddin
  • galluogi pawb sy’n defnyddio gwasanaethau’r Cyngor, neu’n cyfrannu at y broses ddemocrataidd, i wneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg yn ôl eu dewis personol
  • gwella safon y gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws yr adrannau
  • gofalu bod holl bolisïau, strategaethau, prosiectau a phartneriaethau’r Cyngor yn hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg ac yn annog pobl i’w defnyddio’n amlach
  • datblygu gallu disgyblion ysgol a myfyrwyr o bob oedran i fod yn gadarn ddwyieithog ac yn llythrennog yn y ddwy iaith, er mwyn mynd yn aelodau cyflawn o’r gymuned ddwyieithog y maen nhw’n byw ynddi
  • codi hyder a gwella sgiliau dwyieithog staff, cynghorwyr a thrigolion y sir
Yn 2009/10 cafodd 1.7% o staff y Cyngor rywfaint o hyfforddiant Cymraeg, ac roedd hynny'n iawn yn ôl y Cyngor a'r diweddar Fwrdd Iaith. 

Bellach, mae'r adroddiadau i gyd wedi diflannu o wefan y Cyngor, ac felly dydyn ni ddim yn gwybod sut mae'n cydymffurfio â'r Cynllun.

Os ewch chi i dudalen sy'n ymdrin â'r iaith, fe welwch y frawddeg hon:

Ewch i frig y dudalen ar yr ochor dde i weld yr Adroddiad Blynyddol.

Does dim byd yna.

Ar waelod y dudalen mewn bocs sy'n cynnwys "Linciau Allanol" mae'r Cyngor yn cyfeirio at "adroddiadau blynyddol blaenorol i Fwrdd yr Iaith". Daw'r neges hon os cliciwch arnyn nhw:

Access denied.

You do not have permission to perform this action or access this resource.

Fel dinesydd da Sir Gaerfyrddin penderfynais i roi gwybod i'r Cyngor nad oedd yr adroddiadau ar gael.

Mae linc handi iawn ar dudalen flaen y wefan Gymraeg: Rhoi gwybod am rywbeth.

Clic. Daw tudalen a linc newydd: Gwneud cwyn, sylw neu ganmoliaeth. Clic.

Daw tudalen liwgar newydd: 


Complaints and Compliments Procedure 

Have Your Say logo 

Tudalen sy'n esbonio sut i gwyno yn Saesneg. Yna cliciwch ar y cyfeiriad e-bost yma:

 

complaints@carmarthenshire.gov.uk

 

Ychydig iawn o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau Cymraeg y Cyngor, mae'n debyg. Y syndod yw bod yna unrhywun o gwbl sy'n mynd i'r drafferth.











5 comments:

Anonymous said...

Mae fy chwaer yn gweithio i Gyngor Sir Gaerfyrddin ac mae hi'n dweud taw bach iawn o Gymraeg sy'n cael ei ddefnyddio yno. Mae'r corff yn hollol Seisnig (a Saesneg) ei naws.

Anonymous said...

Mi allech ddweud yr un peth am gwefan BBC Cymru. Mae'n anodd dod o hyd iddo erbyn hyn drwy glicio ar linciau achos nid oes linciau'n amlwg. Ac wedi cyrraedd y wefan, nid oes fawr ddim yno ac mae chwaraeon yn druenus.

Iawn....nid Sir Gar ond wythnos ddiwethaf gysylltais a Chyngor Ceredigion.....drwy e-bost yn Gymraeg. Dim un ymateb felly dyma fi'n ffonio nhw ymhen diwrnod neu ddau. Esboniodd y wraig wnes i siarad gyda taw hi oedd yr unig un oedd yn medru'n Gymraeg yn y tim (Ceredigion!?)a dyna pam nad oeddwn wedi clywed dim a hynny gan fod ganddo llawer o waith. Dwi'n gwybod taw annibynwyr oedd yn rheoli Ceredigion ac rwy'n gobeithio fydd pehtau'n newid nawr. Roeddwn i'n meddwl ar y cychwyn.....os wna i ddanfon e-bost yn Gymraeg....bydd hyn yn achosi ffwdan. Ac mae'r mater yn un pwysig i mi. Oes unrhyw syndod nad yw pobl yn dewis delio gyda'r cyrff yma yn Gymraeg?

Cneifiwr said...

Diolch am eich sylw. Beth am gysylltu â'ch cynghorydd, neu hyd yn oed Ellen ap Gwynne, arweinydd y Cyngor Sir?

Plaid Gwersyllt said...

Mae sefyllfa Ceredigion yn un diddorol,gofynnais am wybodaeth ar faint o swyddi Ceredigion sydd wedi ei dynodi lle mae'r Gymraeg yn anghenrheidiol... Y gwir ydy ganddy nhw ddim syniad. Mae gan Ellen tipyn o waith i neud yn Geredigion i wella safonnau iethyddol gweithwyr y Cyngor yno.

Anonymous said...

Peidwich a disgwyl gormod wrth Blaid Cymru.