Thursday 8 November 2012

Ras Glyndŵr - Rhedeg dros y Gymraeg!

Ras Glyndŵr - beth yw e?
 
Ras relay di-stop dros yr iaith Gymraeg o Senedd-dy Glyndŵr ym Machynlleth i Aberteifi a gynhelir ar ddydd Sadwrn 15 Medi 2013 yw Ras Glyndŵr.
 
Bydd unigolion, teuluoedd, busnesau neu glybiau lleol, sefydliadau ac ysgolion yn talu £50 i noddi i redeg 1km. Gall holl ddisgyblion yr ysgol neu holl aelodau’r tîm pêl-droed y pentref redeg yr 1km yna. Ein bwriad yw gweld miloedd o bobl yn rhedeg y ras yn ystod y dydd.
 
Bydd baton wedi ei cherfio’n arbennig i’r ras yn cael ei throsglwyddo o law i law wrth i redwyr dangos eu cefnogaeth i’r iaith. Nid ras i athletwyr yw hi ond ras dros yr Iaith Gymraeg gan bobl Cymru. Ei phwrpas yw codi arian i fentrau Cymraeg, codi ymwybyddiaeth o’r iaith, dangos i’r byd fod cefnogaeth i’r Gymraeg ar lawr gwlad a thynnu pobl at ei gilydd - Cymry Cymraeg, di-Gymraeg a dysgwyr; Gwlad a Thref a phob dosbarth, gallu a hil.
 
Mae’n Ras uchelgeisiol. Mae wedi ei seilio ar ras y Korrika a ddechreuodd yng Ngwlad y Basg yn 1980 ac sydd bellach yn denu tua 600,000 o redwyr a threfnwyr. Mae ras debyg yn Llydaw (ân Redadeg) a nawr yr Iwerddon (ân Rith). Cymru fydd nesa gyda Ceredigion yn arwain y ffordd gyda’r bwriad fod y Ras yn tyfu i fod yn un cenedlaethol.
 
 
Buddion y Ras
 
Mae sawl budd arall i’r ras:
 
Codi arian: Buddsoddi’r elw o’r ras nôl i fudiadau er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.
 
Hybu’r iaith Gymraeg: Tynnu siaradwyr Cymraeg, Cymry Cymraeg nad sy’n arferol rhan o’r ‘Pethe’, pobl di-Gymraeg  a dysgwyr at ei gilydd.
 
Hybu Mudiadau Cymraeg: Gyfle i gryfhau strwythur mudiadau drwy godi proffil ac arian mewn digwyddiadau ar hyd y daith. Uno Cymru a'r Gymraeg: Bydd y ras yn cysylltu ardaloedd Cymraeg a di-Gymraeg eu hiaith, trefol a gwledig, breintiedig a difreintiedig gan ddangos amrywiaeth dosbarth a chefndir siaradwyr Cymraeg.
 
Codi Proffil y Gymraeg: Bydd yn denu sylw yn y cyfryngau Cymraeg a Chymreig yn genedlaethol a lleol a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ar y we (clipiau ar y BBC, S4/Clic, YouTube ayyb). Bydd y ras yn ffordd weledol a symbolaidd o ddangos fod y Gymraeg yn iaith ag iddi filoedd o gefnogwyr.
 
Codi Proffil cymunedau:  Tynnu sylw at fudiadau a sefydliadau cymunedol a chryfder cymunedau ar hyd y daith
 
Hybu iechyd corfforol: Bydd yn hyrwyddo iechyd corfforol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ffordd o Gymreigio clybiau athletau a chlybiau chwaraeon eraill sy'n cymryd rhan.
 
Pwy sy’n cefnogi?
 
Mae Cered Menter Iaith Ceredigion yn brif-bartner, yn trefnu a chydlynu’r ras yn y Sir. Mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg a chyngor cenedlaethol Mentrau Iaith Cymru hefyd yn cefnogi’r Ras.
 
Mae cwmni nid-er-elw, Rhedadeg Cyf, eisoes wedi ei sefydlu a thrwyddi hi bydd arian a cheisiadau grantiau’n cael eu gweinyddu. Bydd mentrau a sector gwirfoddol Ceredigion a Bro Ddyfi yn ymgymryd yn y gwaith o gydlynu a threfnu’r ras gan weithio gyda phwyllgorau bro lleol i stiwardio a threfnu rhedwyr yn eu hardal hwy. Bydd cannoedd o bobl yn gweithio o’u gwirfodd dros y Ras a thros yr iaith Gymraeg.
 
Ariennir y ras gan yr arian a godir gan bobl i redeg a gan nawdd gan gwmnïau a sefydliadau.

Diddordeb?

Cynhelir cyfarfod cychwynnol ‘Ras Glyndŵr 2013’ ar 15 Tachwedd 2012, yn Theatr Felin-fach, rhwng 2 a 4 y prynhawn.
 
Yn ystod y cyfarfod bydd cyfle i ddysgu mwy am y ras, trafod y manylion, codi cwestiynau, a chytuno ar y ffordd ymlaen.

Cysylltwch â Gwenno Hywel neu Siôn Jobbins am fwy o fanylion.
Rhif ffôn:  01545 572356

4 comments:

towy71 said...

any chance of a translation please??

Cneifiwr said...

Just for you! It's about a relay race from Machynlleth to Cardigan next year in aid of the Welsh language. Similar events have been going for a while in the Basque Country, Brittany and Ireland.

Good fun and a good cause. Hope to see you there!

Anonymous said...

It's based on the Basque 'Korrika'; Breton 'Redadeg' and Irish 'Rith' runs.

Fideo (in Welsh) explaining what it's about:

http://www.youtube.com/watch?v=c3__wxkA3fg

Anonymous said...

Syniad da