Thursday 27 June 2013

Siarter Sir Gâr

Aeth cynrychiolwyr Cymdeithas yr Iaith i Gaerfyrddin ddoe i gwrdd ag arweinyddiaeth y Cyngor am y tro cyntaf ers i Sir Gaerfyddin gael ei hailsefydlu ym 1996. Cyflwynodd Ffred Ffransis a Sioned Elin Siarter Sir Gâr i Kevin Madge (Llaf) a Mair Stephens (Annibynnol).

Yn ôl y sôn, dywedodd Kev bod "gwrthdaro wedi bod yn y gorffennol", ond fod "y drws nawr ar agor ar gyfer deialog gyson". Gwrthdaro?

Mae wythnos yn gyfnod hir mewn gwleidyddiaeth, medden nhw, ac felly mae'n debyg bod penderfyniad Llafur a'r Annibynwyr i wrthod cynnig Alun Lenny am TAN20 newydd ddwy wythnos yn ôl, a holl hynt a helynt Penybanc yn ddiweddar yn perthyn i'r Canol Oesoedd.

Deryn doeth a rhywun dw i'n ei edmygu yn fawr iawn yw Ffred Ffransis. Cawn ni weld, felly, beth sy'n mynd i ddigwydd i'r wydd dan ofal y cadno.


"Mae'n amser i roi diwedd ar wrthdaro, yr hen wydd"


2 comments:

Anonymous said...

Rwyn cytuno. Mae'n dyled ni fel Cymru cymraeg I Ffred Ffransis yn anferth.

Anonymous said...

Beth sy'n synnu fi yw pam na cwrddodd plaid Cymru a cymdeithas pan oedden nhw mewn pwer yn y cyngor. Mae plaid wedi rheoli unwaith ers 1996