Friday 2 May 2014

Cymru dan goncrid

Ym mis Chwefror eleni fe gyhoeddwyd set newydd o “amcanestyniadau aelwydydd” gan Lywodraeth Cymru, yn seiliedig ar gyfrifiad 2011, oedd yn dangos bod llai o alw am dai newydd yn ein gwlad.
 
 Mae’r ystadegau newydd am Sir Gâr, er enghraifft, yn awgrymu mai tua 5,400 o dai newydd fydd angen erbyn 2021 – nid yr 11,600 a amcangyfrifwyd yn 2008. Mae hyn yn ostyngiad o 53%.  Ond mae’n ymddangos nad yw Llywodraeth Cymru am i’r Awdurdodau Cynllunio Lleol gymryd gormod o sylw o’r amcanestyniadau diweddaraf, ac i ganiatáu codi tai ar raddfa fwy.  
 
 Ar Ebrill 10fed, fe wnaeth Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio, ysgrifennu at Aelodau Cabinet a Phrif Swyddogion Cynllunio cynghorau Cymru i’w hatgoffa bod yr amcanestyniadau is yn ‘dueddiad sy’n perthyn i’r gorffennol agos ac yn ganlyniad amodau economaidd byd-eang.’
 
Rhybuddia “na fyddai’n ddoeth i gynllun sy’n edrych ar gyfnod 15-20 mlynedd i’r dyfodol adlewyrchu cyfnod eithriadol o wael o ran perfformiad economaidd.” Ychwanega: “Rhaid i awdurdodau cynllunio lleol, wrth iddynt geisio darparu ar gyfer faint o dai y bydd eu hangen, ddadansoddi’r holl ffynonellau tystiolaeth berthnasol yn gyntaf, yn hytrach na dibynnu’n unig ar amcanestyniadau aelwydydd Llywodraeth Cymru,”  sydd, meddai, yn “fan cychwyn ar gyfer asesu anghenion o ran tai” (ac nid) “nod ynddynt eu hunain.”
 
Ymateb Alun Lenny (Plaid, De Tref Caerfyrddin) i'r Gweinidog

"Nôl yn 2008, pan oedd y farchnad dai allan o bob rheolaeth ac ar fin dymchwel, roedd Llywodraeth Cymru’n ddigon parod i ddefnyddio’r amcanestyniadau cyfredol wrth osod y targed o adeiladu 11,600 o dai yn Sir Gâr erbyn 2021. Ond nawr, maen nhw’n gwrthod derbyn amcanestyniadau is 2011 fel llinyn mesur o’r angen presennol ac i’r dyfodol.
 
"Mae’n amhosibl osgoi cymryd safbwynt politicaidd yn y mater yma, gan fod hi’n amlwg mai polisi gwleidyddol gan Lywodraeth Cymru yw hyn - ac nid strategaeth gonest a chall i gwrdd â’r galw gwirioneddol am dai newydd yng Nghymru.  Mae’r polisi hwn gan Lywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yn adlewyrchu bwriad y Blaid Lafur yn ganolog i adeiladu miliwn o dai yn Lloegr o fewn pum mlynedd petai nhw’n ennill yr Etholiad Cyffredinol nesa.
 
"Fe allai canlyniadau’r fath bolisi fod yn ddinistriol i ni yng Nghymru o ran yr effaith ar gymunedau Cymraeg, fel y gwyddom ni’n dda. Ond fe fyddai hefyd yn niweidiol i’r amgylchedd, gyda sawl Cynllun Datblygu Lleol yn llygadu cannoedd o erwau o dir glas amaethyddol da. Daw dydd pan fydd bwyd yn brin, a byddwn yn difaru gorchuddio cymaint o dir ffermio o dan goncrid. Ymhellach, fel y profwyd yn ystod y glaw mawr eleni a’r llynedd, mae nifer o ystadau newydd wedi cael eu codi ar dir sy’n dioddef llifogydd.
 
"O ran helpu’r economi, bach iawn o elw gaiff adeiladwyr a chwmnïau lleol allan o’r strategaeth o godi ystadau anferth. Mae’r cwmnïau mawrion yn dod a’u gweithwyr a’u crefftwyr gyda nhw. Ar y llaw arall, byddai caniatáu datblygu lleol, yn ôl y galw ac amcanestyniadau call a realistig, yn fwy tebygol o roi gwaith i gwmnïau a chrefftwyr lleol, yn llai niweidiol i’r amgylchedd, ac yn debyg o gryfhau safle’r Gymraeg mewn cymuned yn hytrach na’i gwanhau."

'Gwrthryfel' trwy Gymru yn erbyn cynlluniau datblygu lleol

Yn dilyn refferendwm yn ward Tyllgoed (Fairwater, Caerdydd) lle dywedodd 98% 'na' i Gynllun Datblygu Lleol Caerdydd, mae arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y Cyngor yn galw ar i ardaloedd ledled y wlad "godi trwy’r blwch pleidleisio a chwalu’r Cynlluniau Datblygu Lleol anneomcrataidd, sy’n rhoi elw i gwmnïau mawr".


An English version of this piece will follow shortly.

No comments: