Wednesday 13 July 2016

Dyddiadau i'ch dyddiadur

Cymru Rydd Gymraeg oedd gweledigaeth Gwynfor Evans,  a dydd Iau yma, y 14eg, fydd hanner canmlwyddiant buddugoliaeth Gwynfor yn is-etholiad Caerfyrddin. Mae cyfarfod gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar yr union noson i drafod dyfodol y Gymraeg yn Sir Gâr a rali ar y dydd Sadwrn.

"Dyfodol y Gymraeg yn Sir Gar" a Chyfarfod blynyddol Cymdeithas yr Iaith Nos Iau y 14eg o Orffennaf am 7pm, yn y Queen's, Caerfyrddin

Cyfarfod agored i holl gefnogwyr Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr i drafod sut gallwn ni wneud y Gymraeg yn brif iaith Sir Gar ac adeiladu'n cymunedau dros y pum mlynedd nesaf.

Cyfle i glywed a rhoi sylwadau ar yr hyn mae'r Cyngor Sir yn ei wneud fydd fforwm agored Tynged yr Iaith Sir Gâr ym mis Medi - ond beth am gwmniau'r stryd fawr, Cymraeg i Oedolion, gwasanaethau'r blynyddoedd cynnar a beth am y sefyllfa dai?
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dangos y gallai'r Gymraeg fod yn iaith chwaraeon, felly pam na all fod yn iaith ym mhob maes arall?
Rali Cymru Rydd yn Ewrop

Sgwâr Caerfyrddin - 5pm, dydd Sadwrn Gorffennaf 16

Siaradwyr: Adam Price, Gwynoro Jones, Heledd Gwyndaf ac eraill.
Dyma gyfle i ymuno â galwad YesCymru am annibyniaeth i Gymru

https://www.facebook.com/events/1735289823411301/

No comments: