Thursday 30 June 2011

S4C - Dim byd ar Bedwar?

Yn ôl y BBC, Golwg a ffynonellau eraill, syrthiodd nifer gwylwyr S4C yn ystod yr oriau brig o 30,000 i 28,000 yn 2010 (gweler stori Golwg a rhai sylwadau diddorol yma). Ffigurau sy'n dod o adroddiad blynyddol y sianel, ond mewn gwirionedd mae stori gadarnhaol i'w hadrodd.

Fe fu cynnydd yn y nifer o bobl oedd yn gwylio S4C yn ystod wythnos arferol o 449,000 i 487,000 yng Nghymru, ac o 551,000 i 661,000 (+12%) yn y DU gyfan.

Fe fu cynnydd yn y nifer o sesiynau gwylio rhaglenni ar-lein ('Clic') o 1.1m i 1.6m, cynnydd o 44% ar ffigurau 2009.

Ryw ddau fis yn ôl es i i gyfarfod am ddyfodol y sianel yng Nghrymych a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith. Fe ddaeth rhyw 30 o bobl ac roedd safon y drafodaeth yn uchel dros ben. Da clywed cymaint o bobl leol yn siarad mor huawdl a mor angerddol am bwysigrwydd gwasanaeth teledu yn Gymraeg i ddyfodol yr iaith, er bod sawl un yn cwyno am arlwy S4C - roedd 'gormod o rwtsh', ac ati.

Ydy hynny'n wir neu'n deg?

Y ffaith yw, wrth gwrs, bod S4C yn ceisio plesio pawb: garddio, ffermio, coginio, adloniant, hanes, materion cyfoes, cerddoriaeth, digwyddiadau fel Eisteddfod yr Urdd a'r Sioe Frenhinol, chwaraeon, rhaglenni plant ac yn y blaen. Hefyd, mae S4C yn wynebu heriau mawr megis sut i gynhyrchu rhaglenni sy'n apelio at y Cofis a'r Jacs ar yr un pryd?

O'i chymharu â sianeli cyhoeddus mewn gwledydd bach eraill yn Ewrop (e.e. Sweden, Denmarc neu'r Swistir - gwledydd sydd â llawer mwy o bobl gyda llaw), mae arlwy S4C yn hynod o dda. Fel arfer, ceir deiat o newyddion, newyddion lleol, rhaglenni Saesneg sy wedi cael eu dybio neu gydag isdeitlau, rhaglenni "cylchgrawn" (e.e. Wedi 7), rhyw ffilm ddogfen leol (e.e. cyfres sy'n dilyn blwyddyn mewn ysgol yn y Swistir heno) neu raglen goginio. Ac wedyn, cyn mynd i'r gwely, rhagor o newyddion.

Heb os, mae rwtsh ar S4C, yn union fel ar bob sianel, gan gynnwys BBC1. Ond mae rhaglenni arloesol a gwerthfawr megis y gyfres Ar Lafar a thlysau fel Con Passionate hefyd.

Y gwir yw ein bod ni, fel cenedl, wrth ein bodd yn cwyno, ond mae S4C yn werth ymladd drosti.


No comments: