Wednesday 3 August 2011

Brynaman Isaf a'r ysgrifen ar y wal

Yn ôl y South Wales Evening Post anharddodd "fandaliaid" a "chenedlaetholwyr" wal ym Mrynaman Isaf trwy beintio sloganau a symbolau drosti am fod yr arysgrif ddwyieithog (Brynaman Isaf - porth i'r Mynydd Du) yn rhoi'r Saesneg yn gyntaf.

Fel pob un o gynghorau Cymru, mae gan y cyngor Gynllun yr Iaith Gymraeg sydd yn debyg iawn i gynlluniau iaith cynghorau eraill dros Gymru gyfan. Prif nod y cynllun yw bod y ddwy iaith yn cael eu trin ar y sail eu bod nhw'n gyfartal, ac yn ôl y Cyfrifiad 2001 roedd bron i 70% o drigolion Brynaman Isaf yn gallu siarad Cymraeg.

Cwynodd nifer o bobl leol pan godwyd y wal gydag arysgrif nad oedd yn adlewyrchu iaith y gymuned, ond yn ofer. Rhoi'r Saesneg yn gynta yw polisi Castell Nedd Port Talbot, and that's that.


No comments: