Thursday 4 August 2011

Lladd Duw gan Dewi Prysor - Teiffŵn o'r Gogledd

Amser gwyliau ac amser darllen. Dw i newydd orffen Lladd Duw, nofel ddiweddara Dewi Prysor. Dyma hanes sy'n llawn gangstyrs, dihirod, hiwmor, cynhyron, trais a chymeriadau halen y ddaear. Roedd 'nghalon yn wir yn curo "fel injan stemar" wrth i'r stori ruthro ymlaen ar 100 m.y.a.



 Dyw Dewi ddim yn ypdetio ei flog (Y Prysgodyn) yn aml y dyddiau 'ma, wedi cael bywyd go iawn, siŵr o fod, ond mae'r hen ddarnau hyn wastad yn werth eu darllen, serch hynny. Barnau cryf a deallus am bob math o bethau mewn iaith sydd yn bwerus ac yn llawn hiwmor.

Dyma fe'n sôn am Taro'r Post, 

"Rhyw fath o Maes-e i ddeinosoriaid ydi Taro'r Post, yn aml, ac fel y fforwm drafod sydd mor boblogaidd ymhlith epil y dosbarth canol Cymraeg ei iaith, ymysg y deinosoriaid hyn mae pob math o ffrîcs a chrancod yn trigo."

 Ac dyma fe unwaith eto'n dechrau dod iddi,

"Fy ffefrynnau, fel arfer, ydi Cristnogion asgell dde yn cael eu bambŵslo gan berson hoyw deallus ...., neu rhyw ffarmwr sy'n credu fod y byd, yr haul a'r lleuad yn troi o amgylch ei glwstwr o gaeau di-nod, yn dadlau'r du yn biws (a gwylltio, yn amlach na pheidio) yn erbyn rhyw broffesyr o naturiaethwr amgylcheddol ynghylch bodolaeth TB mewn tylwyth teg neu beidio, y naill yn araf golli'i limpyn wrth wfftio ffeithiau gwyddonol, a'r llall yn twt-twtian yn nawddoglyd wrth foddi ei wrthwynebydd ofergoelus efo termau, ffeithiau a thystiolaeth sy'n golygu ffyc ôl i ran fwyaf y gwrandawyr, heb son am y cradur anllythrennog, blewgoch sy'n adnabod ei filltir sgwâr yn well na llond prifysgol o arbenigwyr a'u "inseidoclopsus cachu iâr."

Prif gymeriadau'r nofel yw Jojo a'i ffrind Didi. Dyma nhw'n eistedd mewn gorsaf gwasanaethau ar yr M6 wedi lladd dau aelod o'r Maffia Serbaidd yn Llundain,

"Dyna Didi i'r dim....heb unrhyw allu o gwbl i feddwl drosto'i hun, nac ychwaith i werthfawrogi difrifoldeb canlyniadau yr anallu cataclysmig hwnnw. Hyd yn oed rŵan, â'r cachu eitha wedi taro'r ffan dragwyddol efo holl nerth teiffŵn trofannol, roedd o'n rhoi mwy o sylw i baced mawr o Quavers."

Dim ond blas sydyn ar waith Dewi Prysor a'i nerth unigryw yw hyn, ac mae'n haeddu bob llwyddiant. 

Byddai Lladd Duw yn gwneud ffilm dda hefyd, gyda llaw.

No comments: