Sunday 27 May 2012

Jwbili Ych-a-Fi! - Dathliad amgen yn Llanelli

Mae Llanelli yn erbyn y Toriadau'n trefnu parti "Jiwbili Ych-a-Fi!" ar Ddydd Sadwrn 2il Mehefin yn yr Halfway Hotel, Llanelli am 7 y.h.

Dywedodd trefnwyr y digwyddiad: "Mae'r rhan fwyaf o bobol Cymru wedi blino ar yr holl stwr o amgylch y jiwbili, fell dyma i chi gyfle i wneud rhywbeth gwahanol.

Hefyd mae pobol yn teimlo yn yr amseroedd tyn hyn, gyda toriadau i'n ysbytai lleol, fod gwario miliynau ar y jiwbili yn warthus.

Fe fyddwn yn cael noswaith o gerdd ac adloniant - er mwyn danfon y neges: "jiwbili ych-a-fi! - Dim Toriadau!"


Croeso i Bawb!

Am fwy o fanylion cysylltwch â John Willock, Ysgrifenyddwr Llanelli Trades Council, rhif ffôn 01554 820736 neu e-bost:  llanellianticutscampaign@gmail.com 





Joiwch!

No comments: