Friday 27 July 2012

Blaenoriaethau Cyngor Sir Gâr

Mae'r Cyngor Sir wedi cyhoeddi dogfen o dan y teitl "Cytundeb Partneriaeth rhwng y Blaid Lafur a'r Grŵp Annibynnol Gweithio gyda'n gilydd i greu gwell Sir Gaerfyrddin" (dogfen uniaith Saesneg, wrth gwrs). Wel, rhan ohoni a bod yn fanwl gywir, gan fod y cymalau sy'n disgrifio sut yn union y bydd y ddwy blaid yn cydweithio yn gyfrinachol.

"Trafodir" y cytundeb cyn cael ei dderbyn yn unfrydol gan y Bwrdd Gweithreddol mewn cyfarfod ddydd Llun nesaf.

Heb roi unrhyw ffigyrau na thargedau pendant, mae'r cytundeb yn mynd ati i ddisgrifio gweithgareddau a blaenoriaethau'r cyngor, gan gynnwys hamdden a moderneiddio addysg (h.y. cau mwy o ysgolion bach), Bwcabus a band llydan. Mae yna sôn am adfywio a'r amgylchedd, diogelu plant ac hybu twristiaeth, sbwriel a gofal cymdeithasol.

Ond nid oes yr un gair am y Gymraeg. Yn nunlle. Dim byd. Nada. Rien o gwbl.

Dim ond dweud.

2 comments:

Emlyn Uwch Cych said...

Cneifiwr bach, rwyt ti wedi esgeuluso'r cymal hwn yn yr adran ar Addysg: "We will be inviting the Education and Children’s scrutiny Committee to work with the Executive Board with a further review of the future needs of Welsh in Education."

Felly, mi fydd yna rhyw fath o adolygiad gan ein meistri gwleidyddol yn ystod y 5 mlynedd nesaf.

Cneifiwr said...

Diolch. Mae dy feicrosgop yn well na un fi.