Thursday 23 August 2012

Sbam yn Gymraeg

Fel pawb arall dw i'n hen gyfarwydd ag e-byst o Nigeria (Mrs Ojebiwa requests urgent reply) a'r banciau (Upgrade your Halifx Online Banking Account Now!), ond ces i e-bost gan "Geiriadur Prifysgol Cymru" yr wythnos hon. Oeddwn i wedi ennill y set gyfan?

Nac o'n. Agorais i'r e-bost, ac wele, dim byd ond dolen gyda'r gair brazil ynddi. Sbam gyda feirws, mae'n debyg. A sbam deallus mewn ffordd, achos fy mod i'n defnyddio'r geiriadur.

Oes rhywun arall wedi cael rhywbeth tebyg? Oes rhywun wedi hacio i mewn i'r system?


No comments: