Monday 24 September 2012

Deiseb - ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth

Dyma neges gan Mark Worrall sy'n gofyn i Gynulliad Cymru ystyried ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth:
"Fel cynfyfyriwr Prifysgol Cymru/ Coleg y Drindod, Prifysgol Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan , dw i'n credu'n angerddol y dylid gwneud mwy i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin Cymru.
Bydd adfer y rheilffordd yn ailgysylltu tri champws y Brifysgol ( Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan, Caerfyrddin) yn galluogi pobl, nwyddau a gwasanaethau i symud yn rhwydd rhwng Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Mae cymudwyr, myfyrwyr, pobl fusnes, siopwyr, twristiaid a theuluoedd i gyd yn haeddu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus cyflymach a mwy dibynadwy na'r hyn sy ar gael ar hyn o bryd.
Onibai ein bod yn sicrhau digon o lofnodion i'r ddeiseb hon, ni fyddaf yn cael gwahoddiad i roi'r achos hwn gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, i'n cynrychiolwyr etholedig ei drafod.
Er gwaethaf yr anhawsterau a'r costiau potensial sydd ynghlwm â hwn, credaf fod y prosiect hwn yn hanfodol i'n ffyniant ariannol a'n cynaliadrwydd yn y dyfodol.
Byddai adfer y rheilffordd yn creu system drawsfudol well rhwng Gogledd a De Cymru, yn ailgysylltu cymunedau lleol ac yn rhoi hwb i'r economi Cymreig yn ei gyfanrwydd.
Mae profiad diweddar yng Nglyn Ebbw a Bro Morgannwg yn dangos bod ail-agor rheilffyrdd yn llwyddiannus ac yn gost effeithiol yn y tymor hir.
A wnewch chi, os gwelwch yn dda, ymuno â mi drwy arwyddo'r ddeiseb hon?
A wnewch chi hefyd, os gwelwch yn dda, anfon y ddolen hon at eich cyfeillion, cyd-weithwyr, teulu ac unrhywun arall sydd a diddordeb?
Diolch am eich cefnogaeth!"

1 comment:

Anonymous said...

Mi fyddai'n braf gweld hwn yn ail agor.....ac efallai'r Cardi Bach hefyd.