Wednesday 7 August 2013

Canllawiau Kafka-aidd

Diweddariad

Mae'r Cyngor wedi ymestyn y cyfnod ymgynghori tan 11eg Hydref.

___________________________

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin newydd gyhoeddi canllawiau cynllunio atodol drafft i esbonio sut yn union y bydd y Cyngor yn ystyried effaith datblygiadau preswyl dan y Cynllun Datblygu Lleol ar y Gymraeg fel iaith gymunedol.

Yr ateb yw, mewn brawddeg, na fydd yr awdurdod yn ystyried yr effaith ar unrhyw gymuned o ran y 16,240 o "unedau preswyl" newydd y mae'r Cynllun Datblygu yn eu cynnig yn Sir Gaerfyrddin erbyn 2021, am fod y Cyngor yn mynnu bod yr effaith eisoes wedi cael ei hystyried wrth iddo lunio'r cynllun.

Dim ond yn achos rhai safleoedd newydd na chafodd eu neilltuo yn y Cynllun gwreiddiol y bydd angen asesu'r effaith ieithyddol yn fanwl.

Mae hyn yn codi'r cwestiwn i ba raddau mae'r Cyngor wedi asesu effaith y datblygiadau arfaethedig ar bob cymuned unigol. Dim o gwbl yw'r ateb, ond bydd rhaid i ni droi at Papur Pwnc Yr Iaith Gymraeg gyntaf.

Craidd y papur pwnc hwn yw methodoleg ddiffygiol dogfen arall - Cynllunio a’r Iaith Gymraeg: Y Ffordd Ymlaen - sydd yn seiliedig ar 16 cwestiwn.

Mae'n rhaid gofyn pa mor berthnasol i'r iaith yw cwestiynau megis y rhain:

Ydy’r Cynllun Datblygu Lleol yn debygol o gael effaith ar iechyd pobl leol?

Ateb: Gwelliant

Ydy’r Cynllun Datblygu Lleol yn debygol o effeithio ar y risg o fwy o droseddu neu drais yn
y gymuned? A allai gynyddu’r risg o droseddu neu drais, gan wneud y gymuned yn lle llai
dymunol i fyw ynddo felly?


Ateb: Gwelliant

Ydy’r Cynllun Datblygu Lleol yn debygol o gael effaith ar fwynderau’r Sir? A allai arwain at
ddirywiad yn ansawdd yr amgylchedd, gan wneud y gymuned yn lle llai dymunol i fyw
ynddo felly?


Ateb: Gwelliant

Mae iechyd, yr amgylchedd a throseddu'n ffactorau sy'n bwysig i bawb, beth bynnag yw'r iaith.

O'r 16 cwestiwn, "Gwelliant" yw'r ateb i 6 ohonynt, tra mai "Effaith Niwtral" yw'r casgliad yn achos chwech arall. "Ansicr" yw'r ateb i'r gweddill. Mae'r gair "negyddol" yn rhy negyddol, mae'n debyg.

Y cwestiynau pwysicaf yn y cyd-destun hwn yw:

Ydy’r Cynllun Datblygu Lleol yn debygol o arwain at gynnydd / gostyngiad yn y boblogaeth
a allai:

  •  Effeithio ar y cydbwysedd rhwng siaradwyr Cymraeg / Saesneg (mewn ffordd
           negyddol neu gadarnhaol); neu
  •  Arwain at ostyngiad absoliwt neu gyfraneddol yn y nifer o siaradwyr Cymraeg?
Ateb: Ansicr

Ydy’r Cynllun Datblygu Lleol yn debygol o arwain at fwy o fewnfudo neu allfudo?

Ateb: Ansicr

A oes gan y Cynllun Datblygu Lleol botensial i arwain at densiynau cymdeithasol,
gwrthdaro neu raniadau difrifol o fewn y gymuned Gymraeg ei hiaith?



Ateb: Ansicr

Ac dyna ni. Gan mai'r mwyafrif o'r atebion yn gadarnhaol neu'n niwtral, fe fydd popeth yn iawn, ac ni fydd modd i rywun wrthwynebu datblygiad ar sail ei effaith ar yr iaith.

Gall unrhywun sydd â diddordeb yn y peth ddweud ei ddweud mewn ymgynghoriad erbyn 13eg Medi (manylion yma).

Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ar 31ain Gorffennaf, cyfnod sy'n cyd-daro â'r Brifwyl a'r gwyliau haf, ac mae'n debyg fod y Cyngor am ddod â'r peth i'r gwely cyn i Weithgor y Cyfriad gael cyfle i'w drafod a chyn i'r Llywodraeth gyhoeddi'r TAN20 newydd.

Felly brysiwch, brysiwch bobol!

Ôl-nodyn

Mae Grŵp Plaid Cymru ar y Cyngor wedi cysylltu â'r Carmarthen Journal i dynnu sylw at eu galwad am ymestyn cyfnod ymgynghorol yr addasiadau i'r Cynllun Datblygu a'r canllawiau:

"Plaid Cymru is demanding that the public consultation period into key planning policy and development proposals which will shape the future of Carmarthenshire should be extended. Plaid say it’s totally unacceptable that consultation on such important matters should be held over the summer holidays, and accuse the council of ‘sharp practice’.

 “These are crucially important matters, which will effect communities across Carmarthenshire,” said Cllr Alun Lenny. “The LDP itself will determine what kind of county we’ll be living in by 2021, and these proposed amendments to development sites and planning policies are a key part of the process. They touch on issues like the future of the Welsh language and affordable housing – issues which are of great importance to thousands of our people. It is totally unacceptable that the consultation process into such an important document should be held over the summer holidays, when many people are away. One suspects that this is being done to minimise public response. If so, it is very sharp practice.
“There was cross-party outrage in County Hall when Western Power announced that its public consultation into the Brechfa Forest grid connection plans would finish at the end of August. As a result, the company has extended the consultation period until almost the end of September.  But now we have the council’s administration pulling exactly the same stunt – on an even more important matter.”
Cllr Peter Hughes Griffiths pointed out that town and community councils don’t sit during August and it will be well into September before most of them next meet. “The fair course of action would be to extend the consultation period until early Autumn, in order to give the public, community councils and other interested parties a proper chance to study the proposals and to respond, if they so wish,” he said.
 Cllr Hughes Griffiths has written to council leaders asking them to consider extending the consultation period until October 5th".

No comments: