Sunday 13 July 2014

Cymraeg i Oedolion - gwerthu'r fuwch i brynu tarw

Diweddariad 14 Gorffennaf

Gweler erthygl gan Heini Gruffudd sydd o'r un farn.

____________

Mae rhaglen Cymraeg i Oedolion "yn bwysig yng nghyd-destun Strategaeth y Gymraeg y Llywodraeth, Iaith Fyw:Iaith Byw, yn enwedig yn sgil canlyniadau Cyfrifiad 2011", dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ym mis Rhagfyr 2013 cyn cyhoeddi ar waelod yr un datganiad y gallai'r rhaglen ddisgwyl toriad "dangosol" o 8% i'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn academaidd 2014-15.

Ar sail y toriad, mae'r gwahanol sefydliadau sy'n darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion wedi llunio eu rhaglenni ar gyfer y flwyddyn nesaf. Roedd hi'n amlwg y byddai toriad o 8% yn golygu llai o gyrsiau a llai o ddysgwyr, ac mae nifer o bobl wedi cael eu diswyddo fel canlyniad.

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y Llywodraeth y bydd yn cwtogi cyllideb Cymraeg i Oedolion ymhellach o 7%. Toriad o 15%, felly, ac roedd y toriad diweddaraf llai na thri mis cyn dechrau'r flwyddyn academaidd newydd yn hollol annisgwyl. Bydd rhywfaint o'r yr arian sy'n cael ei dorri o gyllideb Cymraeg i Oedolion yn mynd at y mentrau iaith.

Fe fydd llai fyth o gyrsiau a dysgwyr fel canlyniad, a bydd mwy o bobl yn colli gwaith. Mae'r rhan fwyaf o'r tiwtoriaid (rhyw 600 o bobl ledled Cymru) yn ennill rhwng £5,000 a £10,000 yn flynyddol, gyda llaw.

Ar ben hynny i gyd, mae'r maes yn cael ei ailwampio'n sylfaenol yn ystod y flwyddyn nesaf. Rhaid cyfaddef nad yw'r system bresennol yn berffaith o bell ffordd, ond ansicrwydd parlysol fydd y canlyniad o hacio cyllid y gwasanaeth a'i ad-drefnu ar yr un pryd.

Tasg Cymraeg i Oedolion yw cynhyrchu siaradwyr newydd, ac mae'n ddigon naturiol bod y targedau'n seiliedig ar y niferoedd sy'n mynychu'r dosbarthiadau. Bydd y darparwyr - y prifysgolion, cynghorau sir ac eraill - yn gorfod canolbwyntio eu hadnoddau prin ar ardaloedd trefol a dosbarthiadau yn y dydd.

Sgîl-effaith anfwriadol y toriadau fydd llai fyth o ddysgwyr o dan 60 oed. Os mai pensiynwr wyt ti, mi fydd digon o gyfleoedd i gymdeithasu â phensiynwyr eraill a dysgu ychydig o Gymraeg am ddwy awr yr wythnos.

Pob lwc os wyt ti'n gweithio, yn magu plant ac yn byw mewn ardal wledig. Prin iawn y bydd y ddarpariaeth yn dy filltir sgwâr di, er mai hwn yw'r demograffig pwysicaf i ddyfodol yr iaith.


1 comment:

Anonymous said...

Collwyd cyfle I ail-strwythuro'r sector pan sefydlwyd y canolfannau Cymraeg i Oedolion rhai blynyddoedd yn ol. Yn hytrach na defnyddio'r cyllid i hyfforddi tiwtoriaid a chreu gyrfaoedd gwerth chweil, a felly sicrhau dilyniant i ddysgwyr, gwastraffwyd yr arian ar haenau o fiwrocratiaeth, a chreu cyfundrefn ganolog. Mae'r gyfundrefn hon yn lawn o "diwtor drefnyddion", sy'n ennill cyflogau da dros ben - ond mae'n anodd iawn gweld ffrwyth eu llafur - gyda chanolfan y de-orllewin yn Abertawe yn cyflogi mwy na dau ddrwsin o staff lawn-amser.
Ac ar yr un pryd, fel ddwedoch chi, mae tiwtoriaid cyffredin, y rhai sy'n gwneud y gwaith caib a rhaw, yn ennill arian bach. Dylai Carwyn gau'r canolfannau di-werth, a defnyddio'r arian yn gallach, er gwir fudd dysgwyr yr iaith.